Hen Destament

Testament Newydd

Marc 2:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”

17. Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”

18. Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, “Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?”

19. Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.

20. Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw.

21. “Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe â'r rhwyg yn waeth.

22. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 2