Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:62-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

62. Dywedodd Iesu, “Myfi yw,“ ‘ac fe welwch Fab y Dynyn eistedd ar ddeheulaw'r Galluac yn dyfod gyda chymylau'r nef.’ ”

63. Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach?

64. Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth.

65. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.

66. Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad,

67. a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, “Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu.”

68. Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac aeth allan i'r porth.

69. Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.”

70. Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.”

71. Dechreuodd yntau regi a thyngu: “Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano.”

72. Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, “Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith.” A thorrodd i wylo.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14