Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:48-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

48. A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i?

49. Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau.”

50. A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.

51. Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef,

52. ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth.

53. Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd.

54. Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân.

55. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim.

56. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.

57. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn,

58. “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.’ ”

59. Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.

60. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?”

61. Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?”

62. Dywedodd Iesu, “Myfi yw,“ ‘ac fe welwch Fab y Dynyn eistedd ar ddeheulaw'r Galluac yn dyfod gyda chymylau'r nef.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14