Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd y Pasg a gŵyl y Bara Croyw ymhen deuddydd. Ac yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ddal trwy ddichell, a'i ladd.

2. Oherwydd dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”

3. A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef.

4. Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn ar yr ennaint?

5. Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a'i roi i'r tlodion.” Ac yr oeddent yn ei cheryddu.

6. Ond dywedodd Iesu, “Gadewch iddi; pam yr ydych yn ei phoeni? Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.

7. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.

8. A allodd hi, fe'i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth.

9. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.”

10. Yna aeth Jwdas Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg, at y prif offeiriaid i'w fradychu ef iddynt.

11. Pan glywsant, yr oeddent yn llawen, ac addawsant roi arian iddo. A dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

12. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?”

13. Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,

14. a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle'r â i mewn, ‘Y mae'r Athro'n gofyn, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

15. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu'n barod; yno paratowch i ni.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14