20. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.
21. Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
22. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
23. Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.
24. “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw,“ ‘Tywyllir yr haul,ni rydd y lloer ei llewyrch,
25. syrth y sêr o'r nef,ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’
26. “A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant.
27. Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.
28. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
29. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.
30. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.
31. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.
32. “Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad.
33. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.
34. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.
35. Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore—
36. rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu.