Hen Destament

Testament Newydd

Marc 11:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.

10. Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;Hosanna yn y goruchaf!”

11. Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.

12. Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.

13. A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.

14. Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.

15. Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

16. ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.

17. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd,ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”

18. Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.

19. A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.

20. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 11