Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:43-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,

44. a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb.

45. Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

46. Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd.

47. A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

48. Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

49. Safodd Iesu, a dywedodd, “Galwch arno.” A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, “Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat.”

50. Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu.

51. Cyfarchodd Iesu ef a dweud, “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Ac meddai'r dyn dall wrtho, “Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.”

52. Dywedodd Iesu wrtho, “Dos, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” A chafodd ei olwg yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10