Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:45-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn.

46. Cododd trafodaeth yn eu plith, p'run ohonynt oedd y mwyaf.

47. Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr,

48. ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”

49. Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni.”

50. Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.”

51. Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,

52. ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.

53. Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.

54. Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?”

55. Ond troes ef a'u ceryddu.

56. Ac aethant i bentref arall.

57. Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9