Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:31-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem.

32. Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef.

33. Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud.

34. Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl.

35. Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.”

36. Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.

37. Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.

38. A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, “Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab.

39. Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron.

40. Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant.”

41. Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd â'th fab yma.”

42. Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iacháu'r plentyn a'i roi yn ôl i'w dad.

43. Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw.A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion,

44. “Clywch, a chofiwch chwi y geiriau hyn: y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl.”

45. Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9