Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:21-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb.

22. “Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.”

23. A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i.

24. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.

25. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?

26. Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.

27. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”

28. Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo.

29. Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn.

30. A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent,

31. wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem.

32. Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef.

33. Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud.

34. Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl.

35. Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.”

36. Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.

37. Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9