Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:15-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd.

16. Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.

17. Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

18. Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?”

19. Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.”

20. “A chwithau,” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”

21. Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb.

22. “Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.”

23. A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i.

24. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.

25. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?

26. Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.

27. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9