Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad.

35. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.

36. Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid.

37. Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd.

38. Yr oedd y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael bod gydag ef; ond anfonodd Iesu ef yn ei ôl, gan ddweud,

39. “Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot.” Ac aeth ef ymaith trwy'r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8