Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:29-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau.

30. Yna gofynnodd Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” “Lleng,” meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo.

31. Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder.

32. Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt.

33. Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi.

34. Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad.

35. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.

36. Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8