Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.

18. Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo.”

19. Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.

20. Hysbyswyd ef, “Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn dymuno dy weld.”

21. Atebodd yntau hwy, “Fy mam a'm brodyr i yw'r rhain sy'n gwrando ar air Duw ac yn ei weithredu.”

22. Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, “Awn drosodd i ochr draw'r llyn,” a hwyliasant ymaith.

23. Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl.

24. Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, “Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!” Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch.

25. Yna meddai ef wrthynt, “Ble mae eich ffydd?” Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo.”

26. Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea.

27. Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8