1. Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef,
2. ynghyd â rhai gwragedd oedd wedi eu hiacháu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni;
3. Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain.
4. Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg:
5. “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef.
6. Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.
7. Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.
8. A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
9. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon.
10. Meddai ef, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel“ ‘er edrych, na welant,ac er clywed, na ddeallant’.
11. “Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw.