Hen Destament

Testament Newydd

Luc 7:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.

18. Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglŷn â hyn oll.

19. Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”

20. Daeth y ddau ato a dweud, “Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, ‘Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ ”

21. Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.

22. Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.

23. Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i.”

24. Wedi i negesyddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

25. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.

26. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.

27. Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’

28. “Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”

29. (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;

Darllenwch bennod gyflawn Luc 7