Hen Destament

Testament Newydd

Luc 7:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tŷ, cawsant y gwas yn holliach.

11. Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.

12. Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.

13. Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, “Paid ag wylo.”

14. Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, “Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod.”

15. Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.

16. Cydiodd ofn ym mhawb a dechreusant ogoneddu Duw, gan ddweud, “Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith”, ac, “Y mae Duw wedi ymweld â'i bobl.”

17. Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.

18. Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglŷn â hyn oll.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 7