Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:24-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Ond gwae chwi'r cyfoethogion,oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.

25. Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi,oherwydd daw arnoch newyn.Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin,oherwydd cewch ofid a dagrau.

26. “Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.

27. “Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu,

28. bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin.

29. Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd.

30. Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl.

31. Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.

32. Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy.

33. Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny.

34. Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl.

35. Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.

36. Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.

37. “Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi.

38. Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6