2. Ond dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Pam yr ydych yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?”
3. Atebodd Iesu hwy, “Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
4. Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?”
5. Ac meddai wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”