Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Un Saboth yr oedd yn mynd trwy gaeau ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu tywysennau ac yn eu bwyta, gan eu rhwbio yn eu dwylo.

2. Ond dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Pam yr ydych yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?”

3. Atebodd Iesu hwy, “Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?

4. Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?”

5. Ac meddai wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”

6. Ar Saboth arall aeth i mewn i'r synagog a dysgu. Yr oedd yno ddyn â'i law dde yn ddiffrwyth.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6