26. Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, “Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw.”
27. Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.”
28. A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn.
29. Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy.
30. Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”
31. Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg;
32. i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
33. Ond meddent hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di.”
34. Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy?
35. Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny.”
36. Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen.
37. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn.
38. I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd.
39. Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, ‘Yr hen sydd dda.’ ”