Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau.

3. Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch.

4. Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, “Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.”

5. Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.”

6. Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.

7. Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo.

8. Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.”

9. Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal;

10. a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di.”

11. Yna daethant â'r cychod yn ôl i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef.

12. Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.”

13. Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith.

14. Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: “Dos ymaith,” meddai, “a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”

15. Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau.

16. Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5