Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu.

20. Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, “Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti.”

21. A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, “Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?”

22. Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain?

23. P'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’?

24. Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau”—meddai wrth y claf, “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref.”

25. Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gŵydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5