Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Unwaith pan oedd y dyrfa'n gwasgu ato ac yn gwrando ar air Duw, ac ef ei hun yn sefyll ar lan Llyn Genesaret,

2. gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau.

3. Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch.

4. Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, “Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.”

5. Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.”

6. Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.

7. Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5