Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Glân, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch

2. am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.

3. Meddai'r diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara.”

4. Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.’ ”

5. Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd,

6. a dywedodd wrtho, “I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf.

7. Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan.”

8. Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”

9. Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma;

10. oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat,i'th warchod di rhag pob perygl’,

11. “a hefyd:“ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”

12. Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”

13. Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.

14. Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.

15. Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.

16. Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.

17. Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4