Hen Destament

Testament Newydd

Luc 24:44-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

44. Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.”

45. Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau.

46. Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd,

47. a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.

48. Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn.

49. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”

50. Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio.

51. Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef.

52. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem.

53. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 24