Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:6-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;

7. ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8. Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.

9. Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.

10. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.

11. A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat.

12. Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.

13. Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd,

14. ac meddai wrthynt, “Daethoch â'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gŵydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn;

15. ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.

16. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”

18. Ond gwaeddasant ag un llais, “Ymaith â hwn, rhyddha Barabbas inni.”

19. Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas.

20. Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,

21. ond bloeddiasant hwy, “Croeshoelia ef, croeshoelia ef.”

22. Y drydedd waith meddai wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”

23. Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.

24. Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais;

25. rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23