Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn.”

5. Ond dal i daeru yr oeddent: “Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma.”

6. Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;

7. ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8. Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.

9. Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.

10. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.

11. A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat.

12. Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.

13. Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd,

14. ac meddai wrthynt, “Daethoch â'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gŵydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn;

15. ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.

16. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23