Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:23-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.

24. Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais;

25. rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.

26. Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu.

27. Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.

28. Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.

29. Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’

30. Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau“ ‘Dweud wrth y mynyddoedd,“Syrthiwch arnom”,ac wrth y bryniau,“Gorchuddiwch ni.” ’

31. “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?”

32. Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23