Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:22-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Y drydedd waith meddai wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”

23. Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.

24. Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais;

25. rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.

26. Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu.

27. Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.

28. Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.

29. Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’

30. Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau“ ‘Dweud wrth y mynyddoedd,“Syrthiwch arnom”,ac wrth y bryniau,“Gorchuddiwch ni.” ’

31. “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?”

32. Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.

33. Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.

34. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23