Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:58-71 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

58. Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.”

59. Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.”

60. Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.

61. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.”

62. Aeth allan ac wylo'n chwerw.

63. Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.

64. Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?”

65. A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

66. Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys

67. gan ddweud, “Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym.” Meddai yntau wrthynt, “Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu;

68. ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb.

69. O hyn allan bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.”

70. Meddent oll, “Ti felly yw Mab Duw?” Atebodd hwy, “Chwi sy'n dweud mai myfi yw.”

71. Yna meddent, “Pa raid inni wrth dystiolaeth bellach? Oherwydd clywsom ein hunain y geiriau o'i enau ef.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22