Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:45-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Cododd o'i weddi a mynd at ei ddisgyblion a'u cael yn cysgu o achos eu gofid.

46. Meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”

47. Tra oedd yn dal i siarad, fe ymddangosodd tyrfa, a Jwdas, fel y'i gelwid, un o'r Deuddeg, ar ei blaen. Nesaodd ef at Iesu i'w gusanu.

48. Meddai Iesu wrtho, “Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?”

49. Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, “Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?”

50. Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd.

51. Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.

52. Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?

53. Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod.”

54. Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell.

55. Cyneuodd rhai dân yng nghanol y cyntedd, ac eistedd gyda'i gilydd. Eisteddodd Pedr yn eu plith.

56. Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.”

57. Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch.”

58. Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.”

59. Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22