28. Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon.
29. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi;
30. cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.
31. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;
32. ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.”
33. Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.”
34. “Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.”
35. Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant.
36. Meddai yntau, “Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.
37. Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.”
38. “Arglwydd,” atebasant hwy, “dyma ddau gleddyf.” Meddai yntau wrthynt, “Dyna ddigon.”