Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo,

11. a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

12. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.”

13. Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

14. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef.

15. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef!

16. Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.”

17. Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd.

18. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.”

19. Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.”

20. Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.

21. Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd.

22. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!”

23. A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd p'run ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.

24. Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf?

25. Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr.

26. Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22