7. Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?”
8. Meddai yntau, “Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac, ‘Y mae'r amser wedi dod yn agos’. Peidiwch â mynd i'w canlyn.
9. A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch â chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith.”
10. Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
11. Bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
12. Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
13. hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu.
14. Penderfynwch beidio â phryderu ymlaen llaw ynglŷn â'ch amddiffyniad;
15. fe roddaf fi i chwi huodledd, a doethineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.
16. Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
17. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.
18. Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.
19. Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.