Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato,

2. ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.”

3. Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf:

4. bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 20