Hen Destament

Testament Newydd

Luc 2:46-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

46. Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi;

47. ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.

48. Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat.”

49. Meddai ef wrthynt, “Pam y buoch yn chwilio amdanaf? Onid oeddech yn gwybod mai yn nhÅ· fy Nhad y mae'n rhaid i mi fod?”

50. Ond ni ddeallasant hwy y peth a ddywedodd wrthynt.

51. Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn ôl i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.

52. Ac yr oedd Iesu yn cynyddu mewn doethineb, a maintioli, a ffafr gyda Duw a'r holl bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 2