Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18:13-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’

14. Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”

15. Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu.

16. Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

17. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”

18. Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”

19. Dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

20. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ”

21. Meddai yntau, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.”

22. Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ôl i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”

23. Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben.

24. Pan welodd Iesu ef wedi tristáu, meddai, “Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw!

25. Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

26. Ac meddai'r gwrandawyr, “Pwy ynteu all gael ei achub?”

27. Atebodd yntau, “Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw.”

28. Yna dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di.”

29. Ond meddai ef wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 18