Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino:

2. “Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill.

3. Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, ‘Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.’

4. Am hir amser daliodd i'w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho'i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill,

5. eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi'r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a'm plagio i farwolaeth.’ ”

6. Ac meddai'r Arglwydd, “Clywch eiriau'r barnwr anghyfiawn.

7. A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy?

8. Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”

9. Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall:

10. “Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i weddïo, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi.

11. Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïo fel hyn: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma.

12. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.’

13. Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’

14. Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”

15. Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu.

16. Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

17. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”

18. Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 18