22. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.
23. Dywedant wrthych, ‘Dacw ef’, neu ‘Dyma ef’; peidiwch â mynd, peidiwch â rhedeg ar eu hôl.
24. Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.
25. Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon.
26. Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn:
27. yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.
28. Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29. ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tân a brwmstan o'r nef a difa pawb.
30. Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.
31. Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tŷ, peidied â mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae â throi yn ei ôl.
32. Cofiwch wraig Lot.
33. Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.
34. Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.
35. Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall.”
37. Ac atebasant hwythau ef, “Ble, Arglwydd?” Meddai ef wrthynt, “Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.”