Hen Destament

Testament Newydd

Luc 16:5-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Faint sydd arnat i'm meistr?’

6. Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o olew olewydd.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith “bum cant.” ’

7. Yna meddai wrth un arall, ‘A thithau, faint sydd arnat ti?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o rawn.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘ac ysgrifenna “wyth gant.” ’

8. Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg.

9. Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben.

10. Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.

11. Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?

12. Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain?

13. Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.”

14. Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar.

15. Ac meddai wrthynt, “Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw.

16. Y Gyfraith a'r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan; oddi ar hynny, y mae'r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais.

17. Ond byddai'n haws i'r nef a'r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym.

18. Y mae pob un sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac y mae'r dyn sy'n priodi gwraig a ysgarwyd gan ei gŵr yn godinebu.

19. “Yr oedd dyn cyfoethog oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, ac yn gwledda'n wych bob dydd.

20. Wrth ei ddrws gorweddai dyn tlawd, o'r enw Lasarus, yn llawn cornwydydd,

21. ac yn dyheu am wneud pryd o'r hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog; ac yn wir byddai'r cŵn yn dod i lyfu ei gornwydydd.

22. Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 16