Hen Destament

Testament Newydd

Luc 16:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, “Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef.

2. Galwodd ef ato a dweud wrtho, ‘Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.’

3. Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota.

4. Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.’

5. Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Faint sydd arnat i'm meistr?’

6. Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o olew olewydd.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith “bum cant.” ’

7. Yna meddai wrth un arall, ‘A thithau, faint sydd arnat ti?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o rawn.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘ac ysgrifenna “wyth gant.” ’

8. Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg.

9. Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben.

10. Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.

11. Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 16