Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:28-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith?

29. Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar

30. gan ddweud, ‘Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.’

31. Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?

32. Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd.

33. Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi.

34. “Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno?

35. Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14