Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:27-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. A dywed ef wrthych, ‘Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.’

28. Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.

29. A daw rhai o'r dwyrain a'r gorllewin ac o'r gogledd a'r de, a chymryd eu lle yn y wledd yn nheyrnas Dduw.

30. Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf.”

31. Y pryd hwnnw, daeth rhai Phariseaid ato a dweud wrtho, “Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod â'i fryd ar dy ladd di.”

32. Meddai ef wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, ‘Heddiw ac yfory byddaf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu, a'r trydydd dydd cyrhaeddaf gyflawniad fy ngwaith.’

33. Eto, heddiw ac yfory a thrennydd y mae'n rhaid imi fynd ar fy nhaith, oherwydd ni ddichon i broffwyd farw y tu allan i Jerwsalem.

34. Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13