Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Meddai rhywun wrtho, “Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?” Ac meddai ef wrthynt,

24. “Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.

25. Unwaith y bydd meistr y tŷ wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, ‘Arglwydd, agor inni’; ond bydd ef yn eich ateb, ‘Ni wn o ble'r ydych.’

26. Yna dechreuwch ddweud, ‘Buom yn bwyta ac yn yfed gyda thi, a buost ti yn dysgu yn ein strydoedd ni.’

27. A dywed ef wrthych, ‘Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.’

28. Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13