Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Atebodd yr Arglwydd ef, “Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr?

16. Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?”

17. Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.

18. Meddai gan hynny, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi?

19. Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau.”

20. Ac meddai eto, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21. Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”

22. Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.

23. Meddai rhywun wrtho, “Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?” Ac meddai ef wrthynt,

24. “Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.

25. Unwaith y bydd meistr y tŷ wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, ‘Arglwydd, agor inni’; ond bydd ef yn eich ateb, ‘Ni wn o ble'r ydych.’

26. Yna dechreuwch ddweud, ‘Buom yn bwyta ac yn yfed gyda thi, a buost ti yn dysgu yn ein strydoedd ni.’

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13