Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth.

12. Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.”

13. Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.

14. Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, “Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iacháu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth.”

15. Atebodd yr Arglwydd ef, “Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr?

16. Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?”

17. Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.

18. Meddai gan hynny, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi?

19. Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau.”

20. Ac meddai eto, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21. Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”

22. Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.

23. Meddai rhywun wrtho, “Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?” Ac meddai ef wrthynt,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13