1. Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â'u hebyrth.
2. Atebodd ef hwy, “A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
3. Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.
4. Neu'r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr arnynt yn Siloam a'u lladd, a ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem?
5. Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.”