1. Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â'u hebyrth.
2. Atebodd ef hwy, “A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
3. Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.
4. Neu'r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr arnynt yn Siloam a'u lladd, a ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem?
5. Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.”
6. Adroddodd y ddameg hon: “Yr oedd gan rywun ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim.
7. Ac meddai wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr; pam y caiff dynnu maeth o'r pridd?’
8. Ond atebodd ef, ‘Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o'i gwmpas a'i wrteithio.
9. Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.’ ”
10. Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.