Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:45-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi dod’, a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,

46. yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.

47. Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn ôl ei ewyllys, yn cael curfa dost;

48. ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn ôl gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.

49. “Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau!

50. Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef!

51. A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad.

52. Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:

53. “ ‘Ymranna'r tad yn erbyn y maba'r mab yn erbyn y tad,y fam yn erbyn ei mercha'r ferch yn erbyn ei mam,y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraitha'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.’ ”

54. Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, ‘Daw yn law’, ac felly y bydd;

55. a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, ‘Daw yn wres’, a hynny fydd.

56. Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?

57. “A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?

58. Pan wyt yn mynd gyda'th wrthwynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.

59. Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf un.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12